R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo sector treftadaeth Cymru?OAQ(4)1365(FM)
2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y system cyfiawnder troseddol? OAQ(4)1368(FM)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn ei wneud i hybu pynciau STEM yng Nghymru? OAQ(4)1359(FM)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran rhoi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar waith? OAQ(4)1366(FM)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd? OAQ(4)1351(FM)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau a fydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y chwe mis nesaf i fynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ(4)1355(FM)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd systemau trafnidiaeth integredig mewn modelau dinas-ranbarthau? OAQ(4)1354(FM)
8. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli trethi a phwerau benthyg i Gymru?OAQ(4)1363(FM)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddileu HIV/AIDS yng Nghymru? OAQ(4)1353(FM)
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ei pholisïau a thargedau ynni adnewyddadwy i ystyried technolegau newydd? OAQ(4)1358(FM)
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adroddiad Comisiwn Silk?OAQ(4)1360(FM)W
12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)1352(FM)
13. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i Undebau Credyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?OAQ(4)1369(FM)
14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gynnydd sydd wedi'i wneud gyda sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru?OAQ(4)1361(FM)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn pobl hŷn rhag masnachwyr twyllodrus? OAQ(4)1356(FM)